THE LIBERTY NYC
Mae’r ystafell glwb yn The Liberty NYC wedi bod yn gartref i Gymry Efrog Newydd ers 2018. Pan gaeodd Cantre’r Gwaelod, bwyty Cymreig ym Mrwclyn, ei drysau, roedd angen cartref newydd ar gymuned Cymry Efrog Newydd. Wrth lwc, fe wnaeth Glenn Treacher, yn ennedig o Hwlffordd, groesawu'r gymuned yn ei sefydliad yng nghanolbarth Manhattan.
Mae’r ystafell wedi'u haddurno â atgofion a chyflawniadau hanesyddol cymuned Cymry Efrog Newydd. Crewyd y murluniau gan yr artist Cymreig lleol, Illtyd Barrett. Yn hyn o beth yn rhoi cartref cysurus cymreig newydd i ni.
Mae Cymry Efrog Newydd yn cynnal cyfarfodydd unwaith y mis sy'n agored i unrhyw un â gwreiddiau Cymraeg neu â diddordeb yn y diwylliant Cymreig neu Geltaidd. Dawn at ei’n gilydd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Dydd Gwyl Dewi, Wythnos Cymru yn Efrog Newydd, a Diwrnod Dylan Thomas. Ni fyddai hyn yn bosib heb gymorth Chris Metts, Cydlynydd Digwyddiadau The Liberty NYC, a'r staff.
Rydym hefyd yn cydweithio ar ddigwyddiadau arbennig gyda sefydliadau fel BAFTA Cymru, Rough Trade Records, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Llywodraeth Cymru.
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf cadwch lygaid ar ein tudalen digwyddiadau neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr. Iechyd da!